Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael ei drywanu yn Y Rhyl ddechrau’r mis.

Fe gafodd dyn 25 oed ei anafu mewn ymosodiad “difrifol” yn Stryd y Dwr yn ystod oriau mân dydd Gwener, Mehefin 2.

Mae dyn 27 oed wedi’i gyhuddo o droseddau yn ymwneud â chyllyll.

Ond mae plismyn yn apelio am gymorth unrhyw un a allai fod wedi gweld yr ymosodiad i ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth berthnasol.