Mae’r cyn-Aelod Cynulliad, yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, wedi cael ei benodi yn Is-Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae Nick Bourne wedi bod yn Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, a daw’r newid wrth i’r Prif Weinidog, Theresa May, barhau i ad-drefnu swyddi ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.

Does dim manylion eto pwy fydd yn cymryd y rôl Is-Ysgrifennydd Cymru.

Yn ogystal, mae’r Arglwydd Bourne wedi’i benodi i fod â chyfrifoldeb yn Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae’n aelod o Dŷ’r Arglwydd ers mis Medi 2013. Cyn hynny bu’n Aelod Cynulliad i Ganolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 1999 a 2011 lle’r oedd yn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.