Bydd pum mudiad yng Nghymru yn derbyn gwerth £6,838,324 o grantiau rhyngddyn nhw, gan y Gronfa Loteri Fawr.

Daw’r arian trwy’r rhaglen ‘Creu Eich Lle’ a daw’r gronfa o werthiannau tocynnau’r Loteri Genedlaethol ac arian cyfrifon banc segur.

Nod y rhaglen, meddir, yw “annog cymunedau i drawsnewid eu hamgylcheddau naturiol lleol” ac mi fydd y grantiau yn ariannu’r prosiectau am gyfnod o saith mlynedd.

Ymysg enillwyr y grant mae Menter Môn sy’n derbyn £1,098,000 a Grŵp Treftadaeth Brymbo yn Wrecsam fydd yn derbyn swm o £1,996,483.

Enillwyr y grant

Grŵp Treftadaeth Brymbo, Wrecsam: £1,996,483

Interlink RhCT, Rhondda Cynon Taf: £1,016,881

Duffryn Community Link, Casnewydd: £1,453,861

Menter Môn, Ynys Môn: £1,098,000

Phartneriaeth Adfywio Ynysybwl, Rhondda Cynon Taf: £1,273,099