Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi rhoi sêl bendith i ddatblygiad tai ar gyrion dinas Bangor.
Fe ddaeth llythyr gan Lesley Griffiths yn dweud ei bod o blaid y cynllun i godi 366 o dai gan y cwmni o lannau Merswy, Morbaine, ar safle Pen-y-ffridd ym Mhenrhosgarnedd.
Roedd ymgyrchwyr yn erbyn y datblygiad wedi dadlau y byddai codi cannoedd o dai ychwanegol yn rhoi straen ar gyfleusterau ac ar ffyrdd lleol, yn ogystal â rhoi’r iaith Gymraeg mewn peryg.
Roedd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod caniatâd ar sail niwed y datblygiad i’r Gymraeg yn lleol, ond fe aeth Morbaine i apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Nid yw llythyr Lesley Griffiths yn cyfeirio o gwbwl at yr iaith Gymraeg.