Paul Davies AC
Bydd pleidlais yn cael ei chynnal heddiw yn y Cynulliad fydd yn penderfynu a fydd hawliau pobol ag awtistiaeth yn cael eu diogelu gan gyfraith gwlad.

Os fydd y cynnig yn llwyddiannus, mi fydd yn rhaid i fyrddau iechyd a chynghorau nodi pa wasanaethau sydd yn rhaid iddyn nhw ddarparu i bobol ag awtistiaeth.

Cafodd mesur awtistiaeth ei wrthod yn dilyn pleidlais ym mis Hydref gyda 24 aelod cynulliad yn pleidleisio o’i blaid ond 27 yn pleidleisio yn ei herbyn.

Mae deddfwriaeth sy’n benodol yn diogelu pobol ag awtistiaeth eisoes yn bodoli yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ond nid oes mesurau cyffelyb yng Nghymru.

Cydnabyddiaeth

“Craidd y mesur yma yw diogelu darpariaeth cymuned awtistig – 34,000 person – Cymru, ac i gydnabod awtistiaeth ar lefel cyfreithlon,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Paul Davies, sydd wedi arwain y cynnig.

“Rhaid cofio nid yw’r mesur yma yn fater pleidiol a phobol sydd ag awtistiaeth sydd yn gyrru’r galw am y ddeddfwriaeth nid ni, y gwleidyddion.”