Russell Sherwood (Llun trwy law Heddlu De Cymru)
Mae cwest i farwolaeth gyrrwr a fu farw ar ôl i’w gar fynd yn sownd mewn llifogydd ger Pen-y-bont ar Ogwr, wedi clywed bod oedi wedi bod cyn cau’r ffordd oedd dan dŵr.

Cafodd corff Russell Sherwood, 69, o Gastell-nedd ei ddarganfod yn ei gar yn nyfroedd afon Ogwr ar Dachwedd 23, 2016 ar ôl iddo fethu a mynd i nôl ei wraig, Elizabeth, oedd wedi bod yn gweithio shifft nos ar Dachwedd 20.

Yn dilyn y farwolaeth, cafodd ymchwiliad ei lansio gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) i ymateb Heddlu De Cymru i’r llifogydd, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Modurwr arall

Clywodd y cwest am brofiad modurwr o’r enw Stephen Evans wnaeth fynd yn sownd yn y llifogydd pan geisiodd groesi pont ar Heol New Inn yn Ewenni – yr un bont wnaeth Russell Sherwood geisio ei chroesi’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Aeth Stephen Evans yn sownd ar y bont am 5.20yb ddydd Sul, Tachwedd 20, a phan ffoniodd yr heddlu cafodd wybod nad oedd unrhyw beth y gallen nhw ei wneud ac y dylai ffonio’r gwasanaeth tân.

Roedd wedi gorfod dringo o’i gar oherwydd bod lefel y dŵr wedi codi mor uchel a chafodd ei achub gan y gwasanaeth tân am 6yb.

“Adolygu trefniadau”

Yn ôl Stephen Richards o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru  gwnaeth y gwasanaeth dderbyn galwad  Stephen Evans am 5.27yb a gwnaethon nhw gysylltu â’r Asiantaeth Priffyrdd – sydd yn gyfrifol am gau heolydd – am 5.29yb.

Pan ofynnodd y Crwner, Philip Spinney, a ddylai’r ffordd fod wedi cael ei chau dywedodd Stephen Richards: “Nid yw cau’r heol yn rhan o brotocol y gwasanaeth tân.”

Dywedodd Rafael Combarro o’r Asiantaeth Priffyrdd fod yr heol wedi’i chau am 7yb a’u bod wedi delio â’r mater mor gyflym ag oedd yn bosib “â’r adnoddau oedd ar gael.”

Daeth y crwner i gasgliad naratif.

Dywedodd y Crwner, y byddai’n ysgrifennu at y Gwasanaeth Tân yn galw arnyn nhw i “adolygu eu trefniadau ynglŷn â chau ffyrdd mewn amgylchiadau sy’n peri risg i fywyd.”