Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Fe fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn newid ei enw i ‘Senedd Cymru/Welsh Parliament’ cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn sy’n dod i ben yn 2021.

Daw hyn wedi i Gomisiwn y Cynulliad gynnal ymgynghoriad â’r cyhoedd ynglyn â pha enw fyddai orau, gyda 2,821 o ymatebion yn dod i law.

Roedd 61% o bobol yn cytuno fod angen newid yr enw, ac roedd 73% o blaid yr enw ‘Senedd Cymru/Welsh Parliament’.

O ran teitlau’r cynrychiolwyr etholedig, y dewis mwyaf poblogaidd oedd ‘Aelod o Senedd Cymru/Member of the Welsh Parliament’ – ond yn Saesneg, cytunodd y Comisiwn gynnig galw’r Aelodau yn ‘Welsh Parliament Members’.

Bydd y newid yn cael ei roi ar waith fel rhan o raglen ehangach wrth drosglwyddo pwerau yn sgil Deddf Cymru 2017.

‘Cyfrannu at ddealltwriaeth o’r Cynulliad’

“Rwy’n gobeithio y bydd y newid yn chwarae rhan yn y broses o sicrhau bod mwy o bobol yn llwyr ddeall pwerau’r Cynulliad a’r rôl y mae’n ei chwarae yn eu bywydau,” meddai Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad.

“Mae’r cam hwn yn rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau a fydd, yn fy marn i, yn chwarae rhan bwysig yn y broses o wella dealltwriaeth pobol o rôl deddfwrfa ddemocrataidd y genedl. Mae’r Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi’r ddeddfwriaeth a fydd yn dod â’r diwygiadau hynny i rym y flwyddyn nesaf.”

“Colli cyfle”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu’r penderfyniad i fabwysiadu enwau Cymraeg a Saesneg, yn hytrach nag un term Gymraeg.

“Byddent yn colli cyfle o ran normaleiddio’r Gymraeg pe byddent yn penderfynu mabwysiadu enw dwyieithog yn lle un uniaith Gymraeg,” meddai’r Cadeirydd, Heledd Gwyndaf.

“Mae’r gair ‘Senedd’ yn un mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn ei ddeall a’i gefnogi’n barod. Yn wir, mae’r enw eisoes yn cael ei ddefnyddio’n eang ymysg siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg.

“Byddwn yn ystyried pa gamau i’w cymryd o ran ceisio dylanwadu ar gynnwys y gyfraith.”

“Cam cadarnhaol”

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi croesawu’r cynnig.

“Senedd i Gymru fu un o amcanion allweddol ein plaid erioed, a thros y blynyddoedd, gwelsom y Cynulliad Cenedlaethol yn esblygu a datblygu o ran statws a hyder.

“Ennill pwerau deddfu i’r Cynulliad oed un o’n llwyddiannau mwyaf hyd yma. Mae ffordd bell i fynd eto, ond mae newid enw’r sefydliad i adlewyrchu ei statws fel senedd yn gam cadarnhaol ymlaen.

“Rhaid parhau i wella dyfnhau’r pwerau a’r cyfrifoldebau, fel bod y newid yn fwy na newid enw yn unig. Bydd pwerau fel plismona, cyfiawnder troseddol, adnoddau naturiol a mecanweithiau treth yn galluogi Senedd Gymreig bwerus i wasanaethau ein cenedl yn well a datgloi potensial ein pobol.

“Dylai pobo yng Nghymru gymryd mwy o benderfyniadau drostynt eu hunain.”