Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, Llun: Gwefan y Democratiaid Rhyddfrydol
Mi fydd cysylltiad band eang 341 o ysgolion ledled Cymru yn cael ei uwchraddio â chymorth buddsoddiad £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae gan holl ysgolion Cymru gysylltiad band eang â chyflymder o 10Mbps ar y lleiaf mewn ysgolion cynradd a 100Mbps ar gyfer ysgolion uwchradd.

Bydd y swm o £5 miliwn yn talu am osod gwasanaethau band eang newydd cyflymach ac mae disgwyl i’r archeb gyntaf gael ei chyflenwi yn gynnar ym mlwyddyn academaidd 2017/18.

“Parhau i godi safonau”

“Mae gwneud yn siŵr fod gan bob ysgol, ni waeth lle mae hi, gysylltiad band eang cyflym iawn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

“Mae’n gwbl annerbyniol i ysgol weithredu o dan anfantais sylweddol oherwydd cysylltiad araf â’r rhyngrwyd. Byddaf yn parhau i sicrhau bod yr amgylchedd cywir gan ein disgyblion i ddatblygu eu sgiliau digidol hanfodol a pharhau i godi safonau.”