Llifogydd yn Y Rhyl yn 2013 Llun: PA
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am “ddiffyg arweinyddiaeth amlwg” o ran eu strategaeth ar gyfer rheoli llifogydd arfordirol.

Yn bresennol mae cyfrifoldeb dros erydu a llifogydd arfordirol yn nwylo sawl sefydliad a sector gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr a grwpiau arfordirol.

Yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mae angen “cydnabyddiaeth glir” o rolau a chyfrifoldebau pawb sy’n gysylltiedig â rheoli llifogydd arfordirol a bod “angen i gynnydd ddigwydd yn gyflymach.”

Pan ddaw at bolisi aberthu tir bwriadol caiff Llywodraeth Cymru ei chyhuddo gan y pwyllgor o fod yn “hunanfodlon iawn” ac o gynnig “dull ‘un maint i bawb’” yn hytrach nag ystod o ddatrysiadau.

Mae’r Pwyllgor wedi cynnig deg argymhelliad gan gynnwys sefydlu gwefan fel pwynt gwybodaeth am lifogydd, ac amlinellu rolau penodol pob sefydliad sydd yn ymdrin â’r broblem.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn “anghytuno’n gryf” â rhai o sylwadau’r adroddiad.

“Diffyg cyfeiriad”

“Er bod llawer o bobl ardderchog yn cyflawni ar lawr gwlad, ac ysbryd gwydn iawn ymhlith y rheini sy’n wynebu’r gwaethaf o’r problemau hyn, nid yw hyn yn esgusodi’r diffyg cyfeiriad ac arweinyddiaeth a ddarparwyd hyd yma,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay.

“Er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau angenrheidiol ynghylch adlinio a reolir a rheoli perygl yn cael eu cymryd, mae’n hanfodol bod arweinyddiaeth yn cael ei ddarparu.”

“Anghytuno’n gryf”

“Rydym yn cydnabod yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru. “Rydym, fodd bynnag, yn anghytuno’n gryf â rhai o sylwadau’r adroddiad.”

“Byddwn yn ystyried yr adroddiad ynghyd â’i argymhellion mewn manylder a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol iddo maes o law.”