David Jones AS (Llun: Parliament TV)
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd wedi colli ei swydd yn Weinidog Gwladol dros adael yr Undeb Ewropeaidd wrth i Theresa May aildrefnu ei Chabinet.

Daw hyn ddyddiau’n unig cyn i’r Prif Weinidog ddechrau ar ei thrafodaethau swyddogol dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ei le, mae wedi penodi’r Farwnes Anelay yn Weinidog Gwladol dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Aildrefnu’r cabinet

Cafodd David Jones ei benodi i’r rôl y llynedd wedi i Theresa May ddod yn Brif Weinidog, a hynny wedi iddo ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd cyn y refferendwm.

Yr wythnos diwethaf, fe gafodd ei ailethol yn Aelod Seneddol i Orllewin Clwyd gyda mwyafrif o 3,437 pleidlais, ac mae wedi cynrychioli’r etholaeth yn San Steffan ers 2005 gan ddod yn Ysgrifennydd Cymru.

Y gweinidogion eraill sydd wedi’u diswyddo o gabinet Theresa May ydy’r Gweinidog Amddiffyn, Mike Penning; Gweinidog Cyfiawnder, Oliver Heald a’r Gweinidog Prentisiaethau, Robert Halfon.

Yn eu lle mae wedi penodi Nick Hurd yn Weinidog Gwladol; Dominic Raab yn Weinidog Cyfiawnder, Anne Milton a Robert Goodwill yn Weinidogion Addysg a Claire Perry yn Weinidog Busnes.