Wrth i wythnos olaf Tlws Pencampwyr yr ICC ddechrau yng Nghaerdydd, mae llu o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y brifddinas.

Mae Sri Lanca yn herio Pacistan heddiw am le yn y rownd gyn-derfynol yn y Swalec SSE ddydd Mercher yn erbyn Lloegr. Mae Bangladesh eisoes wedi curo Seland Newydd, a Lloegr wedi curo Seland Newydd yr wythnos ddiwethaf.

Ddydd Mawrth, fe fydd llu o weithgareddau ar gael i gefnogwyr criced yn Heol Eglwys Fair, Ffordd Churchill a Stryd Working, gan gynnwys criced cyflym, ‘bat yn y graig’ a chystadlaethau sy’n cynnig y cyfle i ennill tocynnau.

Fe fydd murlun arbennig i’w weld hefyd rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a’r stadiwm, yn darlunio hanes y gystadleuaeth ar ffurf stribed comic.

Cafodd y murlun ei greu gan y cartwnydd John McCrea, ei ail ar gyfer y gystadleuaeth gyda’r llall yn cael ei arddangos yn Birmingham yr wythnos ddiwethaf.

Bydd ei drydydd murlun yn cael ei ddadorchuddio ar gae’r Oval cyn y rownd derfynol ar Fehefin 18.

‘Cyffro’

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris fod y clwb yn gyffrous o gael cynnal pedair gêm yn y gystadleuaeth eleni.

“Mae’n wych cael cynnal twrnament byd-eang gan eich bod chi’n gweld y cricedwyr gorau wrth eu gwaith.

“Ry’n ni wedi cydweithio’n agos â’r ICC (Cyngor Criced Rhyngwladol) i drefnu llu o weithgareddau gydag ysgolion lleol ac yng nghanol y ddinas yn arwain at y gemau ac yn enwedig cyn y gêm gyn-derfynol i ddathlu’r gystadleuaeth ac i ymgysylltu â’r gymuned leol.”

‘Dangos Cymru i’r byd’

Dros y ddwy flynedd nesaf, fe fydd Caerdydd yn croesawu Lloegr, Awstralia ac India, yn ogystal â nifer o gemau yng Nghwpan y Byd 2019.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates fod y gystadleuaeth yn cynnig “cyfle gwych” i “ddangos Cymru” gan y “bydd llygaid y byd arnom wrth i ni gynnal cystadleuaeth fyd-eang unwaith eto a chroesawu rhai o chwaraewyr gorau’r byd i Gaerdydd”.

Cystadleuaeth gelf

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi mai Ysgol Gynradd Wick and Marcross ym Mro Morgannwg sydd wedi dod i’r brig mewn cystadleuaeth gelf arbennig ar gyfer Tlws Pencampwyr yr ICC.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, a’r her oedd dylunio murlun ar gyfer stadiwm y Swalec SSE a fyddai’n atgof parhaol o’r gystadleuaeth.

Dywedodd Cydlynydd Treftadaeth ac Addysg Clwb Criced Morgannwg, Dr Andrew Hignell fod y “safon yn uchel iawn” a’r enillwyr yn “sefyll allan am ei symlrwydd a gwreiddioldeb”.