Cadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon (Llun: Geraint Thomas)
Pont Menai yw prif ysbrydoliaeth Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni, tra bo’r Gadair wedi’i chreu o goed o gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd.

Saer coed o Ysbyty Ifan, Rhodri Owen, sydd wedi saernïo’r Gadair i nodi canrif ers Eisteddfod y Gadair Ddu ym Mhenbedw lle’r oedd Hedd Wyn yn deilwng ond bu farw rai wythnosau ynghynt ym mrwydr Passchendaele y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r Gadair yn gofyn am awdl ar y teitl ‘Arwr’ neu ‘Arwres’, sef yr un gofynion â’r gystadleuaeth yn 1917.

Ac mae’r Goron a’r Gadair yn cael eu cyflwyno heno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni yn Llangefni.

Y Gadair

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri newydd gwblhau gwaith yn adnewyddu hen gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, a nhw sy’n noddi’r gadair hefyd.

Yn ôl Rhodri Owen, mae’r gadair yn cyfleu themâu o “ail-eni a symud ymlaen” ond hefyd mae’r gorffennol yn rhan fawr ohoni wrth iddo ddefnyddio siapiau offer amaethyddol.

“Mae’r ddwy goes ôl yn codi tua’r ‘lloer’ ac ar siâp pladuriaid, a gwaelod y cefn ar siâp dau haearn marcio, a fyddai wedi’u defnyddio i farcio’r tywyrch cyn torri’r mawn ym myd amaeth,” meddai.

“Mae’r ddau siâp cefn wrth gefn yn creu un haearn donni, a fyddai’n torri’r dywarchen ar ôl ei marcio, yn pwyntio tua’r is-fyd, gan gynrychioli tywyllwch a marwolaeth, tra bo pen y Gadair a’r Nod Cyfrin yn cynrychioli goleuni a bywyd newydd.”


Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon (Llun: Arwyn Roberts)
Y Goron

Mae gwneuthurwr y Goron, John Price, wedi gwau ynghyd nodweddion o Ynys Môn ynghyd ag elfennau o waith mudiad Merched y Wawr sy’n dathlu hanner canrif eleni ac yn noddi’r goron.

“Mae’n bleser mawr cael y gwahoddiad i greu Coron sydd wedi’i noddi gan Ferched y Wawr, mudiad sydd wedi bod yn gonglfaen i’n hiaith a’n diwylliant dros yr hanner canrif ddiwethaf.

“Ac wrth gwrs, mae cymaint o ysbrydoliaeth yn nhirwedd ac yng nghyfoeth diwylliannol Môn, a gobeithio bod y Goron hon yn adlewyrchiad o gyfraniad Merched y Wawr ac Ynys Môn i ni fel cenedl.”

Mae rhai o’r cyfeiriadau hynny’n cynnwys Pont Menai, Ynys Llanddwyn, Telynorion Llannerch-y-medd, Melin Llynnon, Cofeb Jona Jones i Dywysogion Gwynedd a Thlws Pant y Saer sy’n cynrychioli’r siambr gladdu ger pentref Benllech.

  • Mae’r Coroni yn cael ei gynnal ddydd Llun, Awst 7, a’r Cadeirio ar ddydd Gwener, Awst 11.