Cath fach Llun: RSPCA
Llwyddodd RSPCA Cymru i achub 7,642 o anifeiliaid yng Nghymru’r llynedd, yn ôl ystadegau diweddar.

Roedd cath fach aeth yn sownd ar fur Castell Penfro a madfall – ‘draig farfog’ – o Sir Fynwy ymysg yr anifeiliaid gafodd  eu hachub.

Hefyd, yn ôl crynodeb flynyddol yr elusen, cafodd 10,540 o gwynion o greulondeb i anifeiliaid eu cofnodi yn 2016 a chynyddodd nifer y bobol gafodd eu dedfrydu am gam-drin anifeiliaid.

Bu’n rhaid i swyddogion yr elusen rhoi 7,119 hysbysiad rhybudd i aelodau’r cyhoedd y llynedd sydd yn  gynnydd o 22.95% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

“Llawer i ddathlu”

“Mae’n amlwg bod gyda ni lawer i ddathlu yng Nghymru,” meddai Cyfarwyddwr Cynorthwyol y RSPCA, Claire Lawson. “Rwy’n hynod o falch o’r hyn rydym wedi cyflawni yng Nghymru i wella bywydau anifeiliaid.”

“Gwnaeth ein tîm bach o swyddogion achub bron i 21 anifail pob dydd yn ystod 2016 ac mae’r cynnydd yn nifer yr hysbysiadau rhybudd gwnaethom ddosbarthu yn amlinellu ein hymrwymiad i addysgu perchnogion anifeiliaid.”