Myrddin ap Dafydd
Mewn lansiad yn Aberystwyth y penwythnos hwn, mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn gobeithio denu mwy o bobol i fanteisio ar eu gwasanaeth.

Maen nhw’n galw ar bobol i ymuno â ‘Chyfeillion y Geiriadur’ gan gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Geiriadur at gynulleidfa ehangach.

Y gobaith ydy codi ymwybyddiaeth pobol am y gwasanaeth sydd bellach ar-lein ers 2014, ynghyd â’r apiau ar gyfer dyfeisiau Android ac iOS.

Canmlwyddiant

Eglurodd Llywydd y Cyfeillion, y Prifardd Myrddin ap Dafydd, fod hyn yn rhan o baratoadau’r Geiriadur at eu canmlwyddiant yn 2020.

“Dwi’n cofio’n blentyn y cyffro fyddai ymysg fy rhieni, a thanysgrifwyr yn y siop lyfrau oedd ganddyn nhw yn Llanrwst, bob tro y byddai adran ddiweddaraf y Geiriadur yn cael ei chyhoeddi,” meddai Myrddin ap Dafydd.

“Roedd fel pe bai pawb wedi cael pen-blwydd efo’i gilydd – ffermwyr, pregethwyr, saer, siopwyr. Roedd ganddyn nhw i gyd eu geiriau eu hunain ac roedd y Geiriadur yn dod â nhw at ei gilydd,” meddai.

“Mi fydd Cyfeillion y Geiriadur yn dod â’r genedl at ei gilydd ar gyfer dathlu’r canmlwyddiant.”

Hanes y Geiriadur

  • Cafodd argraffiad cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru ei gyhoeddi mewn rhannau 64 tudalen o 1950 ymlaen, cyn eu cyfuno mewn pedair cyfrol sy’n cynnwys 7.3 miliwn o eiriau o destun.
  • Yn 2002, dechreuwyd ar y gwaith o ail-olygu rhannau A – B, ac wedi ymddeoliadau Gareth A. Bevan a Patrick J. Donovan, cymerodd Andrew Hawke at yr olygyddiaeth yn 2008, gyda’r fersiwn ar-lein yn cael ei lansio yn 2014.
  • Mae lansiad ‘Cyfeillion y Geiriadur’ yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, Mehefin 17 am 2 o’r gloch yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth gyda chyflwyniadau gan Tegwyn Jones, Angharad Fychan a Dafydd Johnston.