Llun: PA
Roedd pwysau yn y gweithle yn gyfrifol am tua 47,000 diwrnod o absenoldeb gan athrawon Cymru’r llynedd, yn ôl ystadegau diweddar.

Yn ôl ffigurau ddaeth i law Undeb Cenedlaethol yr Athrawon Cymru (NUT Cymru) trwy gais rhyddid gwybodaeth, cafodd cyfanswm o 47,077 o absenoldebau yn gysylltiedig â phwysau eu cofnodi yn 2016.

Er hynny, rhwng 2015 a llynedd bu cwymp o 4,718 yn nifer dyddiau o absenoldeb athrawon yng Nghymru oherwydd pwysau.

Yn ystod y cyfnod yma gwelodd naw o gynghorau Cymru gwymp, ond bu cynnydd ymysg y 13 cyngor arall gan gynnwys Sir Fynwy lle bu cynnydd o 1,029 – y cynnydd uchaf yng Nghymru.

“Echrydus o uchel”

“Bu ychydig o gwymp yn nifer yr afiechydon oherwydd pwysau dros Gymru, sydd yn gymharol bositif, ond mae’r ystadegau ar y cyfan o hyd yn echrydus o uchel,” meddai Swyddog Polisi NUT Cymru, Owen Hathway.

“Mewn unrhyw ardal yng Nghymru mae miloedd o ddyddiau’n cael eu colli. Mae hyn yn effeithio’r athrawon a’r disgyblion. Mae’n rhaid i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, flaenoriaethu mynd i’r afael â’r broblem yma.”

“Croesawu’r lleihad”

“Rydym yn croesawu’r lleihad ond yn derbyn bod mwy o waith i wneud,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn gweithio’n galed i leihau baich gwaith a galluogi athrawon i dreulio mwy o amser yn cefnogi disgyblion.

“Er mwyn cefnogi athrawon ymhellach, rydym yn buddsoddi mewn dosbarthiadau llai, hyfforddi athrawon, yn ogystal â dysgu proffesiynol parhaus.”