Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Yn dilyn ethol pedwar Aelod Seneddol o Blaid Cymru i San Steffan, mae arweinydd y blaid wedi rhybuddio na fydd Cymru’n cael ei diystyru yn y trafodaethau Brexit.
Dywedodd Leanne Wood fod llywodraeth leiafrifol y Ceidwadwyr yn golygu y bydd yn rhaid cael consensws i basio pleidleisiau yn y Senedd, a bydd Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn “brwydro o ran y trafodaethau Brexit ac ymhellach.”
“Mae senedd grog yn golygu nad oes gan y Prif Weinidog fandad i gyflawni’r fersiwn eithafol o Brexit.”
“Mae cyfle cynyddol i ASau Plaid Cymru i siapio a dylanwadau sut y bydd Brexit yn digwydd yn golygu y bydd llais Cymru’n cael ei glywed,” meddai.
“Drwy weithio gyda’r gwrthbleidiau bydd Plaid Cymru yn sicrhau fod swyddi Cymru, cyflogau a phrif ddiwydiannau yn cael eu rhoi wrth galon y trafodaethau dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.
“Yn syml, fy neges i Theresa May ydy – yn ei swydd ansicr, mae’n anwybyddu Cymru ar ei pherygl ei hun.”