Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol S4C ac Andrew Davies, o RWG Mobile
Mae gwasanaeth rhwydwaith ffonau symudol cyntaf Cymru yn gobeithio cydweithio â S4C i ddatblygu cynnwys a phlatfform i ddeunydd digidol.

Cafodd RWG Mobile, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, ei sefydlu flwyddyn yn ôl ac mae’n rhwydwaith telathrebu “wedi’i ddylunio ar gyfer anghenion pobol Cymru.”

Yn ôl y cwmni mae un o bob deg o ddefnyddwyr yng Nghymru yn cysylltu â’r We drwy ffôn symudol – sef y ganran uchaf ymysg gwledydd Prydain.

O ganlyniad maen nhw’n gobeithio cydweithio ag S4C i ymateb i’r galwadau hynny.

Darlledu chwaraeon byw

“Drwy ddwyn ynghyd cwmni cyfryngau blaenllaw a rhwydwaith symudol cyntaf Cymru rydym yn agor y drws i greu cwmni cyfathrebu traws-lwyfan gwych ar gyfer y dyfodol,” meddai Andrew Davies, sylfaenydd RWG Mobile.

Maen nhw’n gobeithio sicrhau 90,000 o gwsmeriaid newydd yn y tair blynedd gyntaf, ac yn edrych ar gynnig pecyn i wylio darllediadau S4C, gan gynnwys chwaraeon byw.

“Mae’r bartneriaeth yma gyda RWG yn golygu y gall gwylwyr S4C wylio ein cynnwys heb ddefnyddio lwfans data eu ffonau symudol. Mae hyn yn fantais ffantastig pan mae rhywun yn ystyried cymaint o rygbi a phêl-droed sy’n cael ei wylio ar ddyfeisiadau symudol,” meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Masnachol S4C.

Signalau gwan

Mae’r cwmni hefyd wedi sefydlu ap lle gall pobol ddefnyddio eu rhifau busnes lle mae signal symudol yn wan.

“Bydd y cymunedau busnes a ffermio yng Nghymru yn gwerthfawrogi gwerth a manteision yr ap gan ei fod yn caniatáu i alwadau gael eu gwneud gan ddefnyddio eu rhif busnes lle mae signalau symudol yn wan, gan helpu i negyddu effaith drwg-enwog y ’mannau gwan’ yng Nghymru,” ychwanegodd Andrew Davies.