Mae cynllun ar y gweill i leihau ‘cytundebau dim oriau’ gofalwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ymgynghoriad heddiw i’r mater a fydd yn parhau am wyth wythnos ar eu gwefan, tan 7 Awst 2017.

Bwriad y cynllun yw “gwella ansawdd y gofal” ynghyd ag amodau gofalwyr, ac mae’n cynnwys cynnig i gyflogwyr roi dewis i weithwyr symud oddi wrth ‘gytundebau dim oriau’ at ‘gytundebau isafswm oriau’, ar ôl tri mis o gyflogaeth.

Ansawdd y gofal

 

Mae’r cynllun hefyd yn ceisio mynd i’r afael ag amseroedd yr ymweliadau, gan gadw mewn cof yr amser teithio o un ymweliad i’r llall.

“Er bod yn well gan rai staff fod ar ‘gontractau dim oriau’, gan werthfawrogi eu hyblygrwydd, mae ansicrwydd y contractau hyn yn gallu cael effaith niweidiol ddifrifol ar fywydau llawer,” meddai Rebecca Evans, Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

“Bwriad y cynigion rydw i wedi’u cyhoeddi heddiw yw cynnig bargen decach i staff, a diogelu ansawdd y gofal a chymorth y mae pobol yn eu cael yn eu cartrefi eu hunain,” meddai.

“Mae ymchwil yn dangos cysylltiad rhwng amlder ‘contractau dim oriau’ a gostyngiad yn ansawdd y gofal, a hynny oherwydd materion ynghylch dilyniant o ran gofal a chyfathrebu rhwng gweithwyr a’r rhai y maen nhw’n eu cefnogi,” ychwanegodd.