Andrew RT Davies (Llun: Ceidwadwyr Cymreig)
Mae angen i’r Ceidwadwyr Cymreig allu gwneud penderfyniadau y tu hwnt i’r Cynulliad, yn ôl Andrew RT Davies.

Mae e’n cael ei adnabod fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ond dim ond yn y Cynulliad y mae ganddo fe awdurdod.

Ar ôl colli tair sedd yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau, dywedodd e wrth raglen Sunday Politics Wales fod diffyg arweiniad o fewn y blaid yng Nghymru.

Dywedodd: “Mae gyda ni frand Ceidwadwyr Cymreig clir a phendant, ond mae angen i ni allu gwneud penderfyniadau gwleidyddol allweddol yma yng Nghymru a chael arweinydd penodedig yma yng Nghymru, yn debyg i’r hyn wnaeth y Blaid Lafur ei ffurfioli ym mis Mawrth.

“Dw i’n barod i gydnabod hynny.”

Cyfrifoldebau

Fel arweinydd, mae Andrew RT Davies yn gyfrifol am faterion datganoli, ond Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns sy’n gyfrifol am faterion San Steffan.

Dywedodd fod model yr Alban yn llwyddo, gyda Ruth Davidson yn arwain ymgyrch seneddol yr Alban ar wahân i’r ymgyrchoedd yng Nghymru a Lloegr.

Ffrae

Daeth y dryswch tros arweinyddiaeth y blaid yng Nghymru’n amlwg yn y dadleuon teledu.

Darren Millar oedd cynrychiolydd y blaid, ac nid Alun Cairns, tra bod Andrew RT Davies ar ei wyliau.

Ond fe wadodd y blaid ar y pryd fod yna ffrae.