Traeth Ynys y Barri
Mae un o atyniadau ffair Ynys y Barri ym Mro Morgannwg yn wynebu dyfodol ansicr yn dilyn honiadau ei fod e wedi cael ei godi heb ganiatâd cynllunio.
Fe allai Ynys y Trysor gael ei ddymchwel ar ôl i berchnogion y ffair ei godi heb fynd at gynllunwyr.
Bydd swyddogion y cyngor yn argymell fod swyddogion yn penderfynu mewn cyfarfod ddydd Iau fod angen tynnu’r atyniad i lawr.
Mae perchennog y parc, Henry Danter yn mynnu nad yw e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Ond fe allai wynebu achos llys pe bai’n anwybyddu unrhyw orchymyn i dynnu’r atyniad i lawr.
Adroddiad
Yn ôl un adroddiad, fe fu swyddogion y cyngor ar y safle sawl gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ond maen nhw’n dweud na chafodd cais cynllunio ei gyflwyno cyn codi’r atyniad.
Mae’r cyngor bellach yn argymell cyflwyno hysbysiad fod rhaid tynnu’r atyniad i lawr yn ei gyfanrwydd.