A fydd Alun Cairns yn parhau'n Ysgrifennydd Cymru?(Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae tri Chymro’n aros i glywed a fyddan nhw’n aros yng Nghabinet Llywodraeth Geidwadol Prydain yn dilyn yr etholiad cyffredinol brys ddydd Iau.

Fe fu’n rhaid i’r Prif Weinidog Theresa May droi at y DUP er mwyn cynnal ei llywodraeth, ar ôl i’w phlaid orffen wyth sedd yn brin o fwyafrif. Mae hynny’n golygu y gallai rhai aelodau gael eu penodi’n weinidogion yn ei Chabinet.

Llwyddodd Alun Cairns i gadw ei sedd ym Mro Morgannwg gan ennill 25,501 o bleidleisiau (47.5%).

Yn Aberconwy, llwyddodd ei ddirprwy weinidog Guto Bebb i ddal ei afael ar ei sedd yntau, gan ennill 14,337 o bleidleisiau (44.6%), a’r Gweinidog Brexit David Jones yn dal ei afael ar sedd Gorllewin Clwyd gyda 19,541 o bleidleisiau (48.1%).

Ymgyrch yng Nghymru

Collodd y Ceidwadwyr dair sedd yng Nghymru, gyda chyfarwyddwr polisi’r blaid Darren Millar yn rhoi’r bai am y methiannau ar roi gormod o sylw i ymgyrch Jeremy Corbyn yn hytrach nag ar eu hymgyrch nhw eu hunain.

Wrth i Theresa May chwilio am aelodau i’w Chabinet a fydd yn rhoi eu cefnogaeth lawn iddi, mae awgrym cryf y bydd David Jones yn cadw ei swydd yn Weinidog Brexit.