Yn dilyn noson fywiog neithiwr ar draws gwledydd Prydain mae hi bellach yn ymddangos bod mwyafrif y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi lleihau a bod gafael y Prif Weinidog ar bŵer yn wannach nag erioed.

Ond mae Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn “hyderus” y bydd Theresa May yn medru mynd yn ei blaen i sefydlu Llywodraeth yn ddirwystr.

“Mae’r Prif Weinidog yn hynod o brofiadol,” meddai Andrew RT Davies wrth golwg360. “Fel Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Cartref mae wedi profi ei bod hi’n medru gwneud y penderfyniadau anodd sydd yn rhaid eu gwneud. Ac mae gennyf hyder bydd yn medru mynd yn ei blaen a sefydlu Llywodraeth.

“Mae’r drafodaeth [Brexit] yn dechrau mewn ychydig o ddiwrnodau, mae’n rhaid i ni gael un. Mae gennyf hyder bydd y Prif Weinidog yn gwneud hynna ac yn sicrhau mandad i lywodraethu.”

Colli seddi

 pholau ar un adeg yn awgrymu y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill y mwyafrif o seddi yng Nghymru am y tro cyntaf ers sefydliad gwir ddemocratiaeth yn y wlad, mae colli tair sedd yn dipyn o ergyd i’r blaid.

Ond mae canran y bleidlais Geidwadol yng Nghymru yn galonogol i’r arweinydd Cymreig.

“Nid dyma’r canlyniad roeddem ni eisiau, ond ni yw’r blaid fwyaf yn San Steffan o hyd,” meddai Andrew RT Davies.

“Os ydych yn edrych ar y canlyniadau yma yng Nghymru, yn 2015 roedd gyda ni ganran uchel o’r bleidlais – 29% – a 11 AS, ond neithiwr cawsom 35-36% ond mae gyda ni wyth AS.

“Yn anffodus rydym wedi colli llawer o’n pleidlais i’r Blaid Lafur. Ond os ydych yn edrych ar y bleidlais gyfan [o ran canran] dyma ein canlyniad gorau ers o leiaf 30 blynedd ac o bosib ers yr Ail Ryfel Byd.”