Ben Lake
Cafodd hanes ei greu yng Ngheredigion neithiwr wrth i’r Aelod Seneddol ieuengaf yng Nghymru gael ei ethol – sef Ben Lake, 24 oed, o Blaid Cymru.

Llwyddodd i gipio’r sedd oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol lle’r oedd Mark Williams wedi bod yn Aelod Seneddol ers 2005 – gan olygu nad oes gan y blaid honno’r un sedd yng Nghymru bellach.

Roedd Mark Williams yn amddiffyn mwyafrif o dros 3,000.

“Mae’n bwysig bod amrywiaeth o leisiau yn cael eu cynrychioli yn y siambr,” meddai Ben Lake wrth golwg360.

“Mae’n rhaid cael cydbwysedd rhwng y lleisiau ifanc a’r lleisiau mwy profiadol.”

Ac “ymgyrch yr ifanc” oedd hon, yn ôl Ben Lake.

“Mae pobol ifanc wedi bod yn hanfodol i’n hymgyrch ni – o’r cychwyn cyntaf mae pobol ifanc wedi gwirfoddoli a helpu gyda’r ymgyrch.”

Mae’r bachgen sy’n wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan yn gobeithio efelychu egni’r Aelod Seneddol ieuengaf yn Nhŷ’r Cyffredin, sef Mhairi Black o’r SNP.

“Mae hi wedi creu argraff ar bobol yn San Steffan ac wedi llwyddo i herio. Bydden i’n hoffi meddwl y gallwn i wneud rhywbeth tebyg iddi hi.”

Neges – cefn gwlad

Ei neges bennaf, meddai wrth golwg360, yw bod angen “rhoi mwy o ystyriaeth i faterion gwledig”.

“Mae’n bwysig nad yw ardal wledig Cymru yn cael ei hanghofio gan San Steffan nag unrhyw lywodraeth arall – yn enwedig o ran trafodaethau Brexit,” meddai.

“Mae yna hefyd wir deimlad ac angen am lais ac egni newydd, a rhywun i herio’r consensws yn San Steffan.”

Canlyniadau

Dim ond 104 o bleidleisiau oedd rhwng Plaid Cymru â’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, a bu’n rhaid cyfri’r pleidleisiau dair gwaith yn ystod y noson.

Llwyddodd y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr i godi eu pleidlais yn y sir hefyd, a dyma grynodeb o’r canlyniadau:

  • Ben Lake – Plaid Cymru: 11,623
  • Mark Williams – Democratiaid Rhyddfrydol: 11,519
  • Dinah Mulholland – Llafur: 8,017
  • Ruth Davis – Ceidwadwyr: 7,307
  • Tom Harrison – UKIP:602
  • Grenville Ham – Y Blaid Werdd: 542
  • The Crazed Sir Dudley – Monster Raving Loony Party: 157