Mae un o Aelodau’r Cynulliad dros Ogledd Cymru wedi galw am sicrwydd gan Carwyn Jones na fydd rhagor o oedi wrth fynd ati i godi trydedd pont rhwng Môn a’r tir mawr.

Mewn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn 2007, fe nodwyd wyth opsiwn posib dros leihau problemau traffic sy’n croesi i mewn ac allan o Ynys Môn – gydag un opsiwn yn cynnig adeiladu pont newydd.

Er hyn, nid oes dim wedi digwydd yn y deng mlynedd ers yr ymgynghoriad, er i Carwyn Jones addo ym mis Mai’r llynedd y bydd yn gwneud trydedd groesffordd i ogledd Cymru yn flaenoriaeth pe bai’n ffurfio Llywodraeth.

Problemau traffig yn wael

Wrth godi’r mater gyda’r Prif Weinidog yn siambr y Senedd ddoe, dywedodd yr AC Mark Isherwood fod pobol gogledd Cymru wedi bod yn “aros blynyddoedd” am drydedd groesffordd a bod problemau traffic yn ystod yr oriau prysuraf yn gweld modurwyr yn cymryd deng munud i deithio ¼ milltir.

Wrth gyfeirio cwestiynau at y Prif weinidog, fe ofynnodd Mark Isherwood: “A fedrwch chi sicrhau nad ydyn ni ddim yn mynd i weld ailadrodd yr addewid a gafwyd ganddo chi yn 2007 ar ôl adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ac y byddwch chi’n bwrw’r maen i’w wal gyda’r sefyllfa fel y mae’n bodoli ar hyn y bryd?”

Wrth ymateb, dywedodd Carwyn Jones fod y Llywodraeth wedi penodi’r cwmni ymgynghorol Aecom i gefnogi’r “cam nesaf” o’r gwaith datblygu ac y bydd hynny’n arwain at ddatganiad ym mis Mai 2018 yn nodi beth fydd y cam nesaf.

Ychwanegodd Carwyn Jones: “Ein nod yw gweld trydedd groesffordd dros y Fenai yn agor yn 2022.”