Mae’r blychau pleidleisio wedi agor ac erbyn 10 o’r gloch bydd y cyffro’n dechrau gyda’r cyfri’n digwydd dros nos.
I’ch helpu i ddilyn y canlyniadau, dyma ganllaw arbennig golwg360 o ran yr etholaethau diddorol i’w gwylio yng Nghymru.
Pa rai yw’r seddi ymylol a allai newid dwylo?
Hefyd, cofiwch ddilyn BLOG BYW golwg360 heno a fydd yn dechrau am 10 o’r gloch.