Y Quarryman's Arms
Mae wedi dod i’r amlwg bod cais wedi ei wneud i ddymchwel tafarn olaf Llanllyfni, sy’n un o adeiladau mwyaf eiconig y pentref yn Nyffryn Nantlle, a’i droi yn fyndefa i dai.

Caeodd y Quarryman’s Arms dros bum mlynedd yn ôl ac mae wedi bod yn wag ers hynny.

Mae’r dafarn yn destun un o ganeuon Bryn Fôn o’i ddyddiau Sobin a’r Smaeliaid.

Cyngor Cymuned Llanllyfni sydd wedi derbyn y cais i ddymchwel y dafarn.

Yn ôl aelod o Gyngor Cymuned Llanllyfni ac un o gyfarwyddwyr cwmni recordiau Sain, “diffyg busnes” a “diffyg cefnogaeth” oedd wrth wraidd cau’r dafarn.

“Roedd hi’n brysur iawn ar un adeg,” meddai Owen Pennant Huws wrth golwg360. “Roedd hi’n ganolbwynt i’r pentref, fel oedd tafarndai ers talwm. Ond nawr mae hi wedi dirywio, fel mae pethau’n digwydd.

“Mae pawb yn cofio’r Quarry a’r punch-up arferol. Roedd yn le difyr, roedd yna gymeriadau yna. Duw, oedd yna gymeriadau gwych yna. Chwarelwyr a ballu. Lle difyr am stori a hwyl a thynnu coes.”

Calon cymuned

Ar un adeg roedd yna pum tafarn yn Llanllyfni  ac 20 o siopau ond bellach mae’r rhain i gyd wedi cau ynghyd â’r swyddfa bost.

Er bod gan y pentref neuadd “roedd wir angen man cymunedol lle gall pawb gyfarfod, a dyna oedd y Quarry” yn ôl Owen Pennant Huws.