Bydd nifer o athletwyr o Fôn yn heidio i Sweden i gystadlu yng Ngemau’r Ynysoedd 2017 ar Fehefin 24.
Ar Ynys Gotland bydd dros 3,000 o athletwyr yn cymryd rhan mewn 14 o gampau gwahanol.
Mae tîm pêl-droed Môn eisoes wedi dechrau paratoi gyda gêm gyfeillgar nos Fawrth yn erbyn y Seintiau Newydd.
Ac roedd rheolwr tîm yr ynys yn hapus gyda’r perfformiad yn erbyn pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, er iddyn nhw golli 3-1.
“Rydan ni wedi cwrdd â’n gilydd ers tua phedwar wythnos, a bydd gennym ni dair gêm gyfeillgar cyn mynd, gweithio ar y siâp a cheisio rhwystro’r Seintiau oedd y cynllun,” meddai Gareth Parry sy’n dweud ei bod yn costio cannoedd i bob chwaraewr gystadlu yng Ngemau’r Ynysoedd.
“I fynd drosodd i’r gemau mae angen codi arian i dalu i 19 chwaraewr a pum aelod o staff,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n costio tua £700 y pen. Rydan wedi codi dipyn o’r arian gan drefnu nosweithiau gyda Chris Coleman, Osian Roberts a Dean Saunders. Wedyn mae gweddill y pres yn dod o bocedi’r chwaraewyr eu hunain.
“O ran y garfan mae’n rhaid i chi fyw ar ynys ers blwyddyn neu gael eich geni neu fagu ar yr ynys, i gael eich ystyried. Mi wnaethon ni ddewis 38 o chwaraewyr i ddechrau a’i grynhoi i 19. Roedd yn dasg anodd i roi’r newyddion bod rhai yn methu allan. Rhan anodd o’r swydd oedd rhoi’r newyddion i’r hogiau, ond roedd y siom yn dangos i mi faint mae’r hogiau eisiau bod yn rhan o’r tîm. Rwyf wedi gwylio 63 o gemau tymor diwethaf ac wedi gweld bob clwb ar yr ynys. Mae’n dipyn o job i fod yn rheolwr, mae fel bod yn rheolwr tîm rhyngwladol, ceisio gwylio nifer o gemau a ddim llawer o amser gyda’r chwaraewyr.”
‘Rhoi Môn ar y map’
Mae Môn yn gobeithio cynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2025, yn ôl rheolwr tîm pêl-droed yr ynys.
“Tydi Ynys Môn erioed wedi cynnal y gemau,” meddai Gareth Parry, “ond mi fyddan yn rhoi cais swyddogol o flaen Pwyllgor Gwaith Gemau’r Ynysoedd i gynnal y gemau yn 2025. Mae angen swm enfawr o arian i gynnal y gemau felly bydd rhaid cael cyfarfod gydag adran berthnasol Llywodraeth Cymru. Ond bydd yn gyfle gwerthfawr i roi’r ynys ar y map, a chyfle i bobl yr ynys anelu i gymryd rhan yn y gemau, felly croesi bysedd.
Mae tîm Gareth Parry yng ngrŵp D gydag Ynys Manaw, Hitra ac Ynysoedd y Malvinas (Falklands). Mae tîm merched Môn yng ngrŵp B gyda Åland, Ynysoedd y Gorllewin ac Ynys Manaw.
Fe gafodd Gemau’r Ynysoedd eu sefydlu yn Ynys Manaw yn 1985, yn gyfle i athletwyr o wahanol ynysoedd gystadlu’n rhyngwladol ac i greu cyswllt rhwng yr ynysoedd.