Mae Rheinallt Thomas, Cadeirydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, wedi gwneud apêl ar i aelodau Eglwysi Rhyddion Cymru (ac unrhyw unigolion eriall) arwyddo deiseb sy’n galw am gadw’r canllawiau presennol ynglyn ag addoliad ar y cyd yn ysgolion Cymru.

Cychwynwyd y ddeiseb gan ferch ifanc dair ar ddeg oed o Gaerdydd (Iraj Irfan) fel ymateb i  ddeiseb arall oedd am ddileu y trefniadau presennol.

“Mae’r ferch ifanc yma yn haeddu ein cefnogaeth ac yn fodd i ni sicrhau fod rhywfaint o’r traddodiad Cristnogol Cymreig yn cael ei sicrhau i’r dyfodol,” meddai Rheinallt Thomas.

“Mae digon yn gweithio i ddileu ein traddodiadau gwerthfawr – dyma gyfle i ni fel aelodau o eglwysi Cymru, yn ein cannoedd, ddangos ein bod yn gwerthfawrogi ein traddodiad Cristnogol ac am iddo gael ei drosglwyddo i’n plant a’n pobol ifanc.

“Mae’r Eglwysi Rhyddion wedi bwydro yn y ddwy ganrif ddiwethaf i sicrhau i’r math yma o drefniant fod ar gael i’n plant – gadewch i ni weithredu eto i’n llais gael ei glywed.”