Mae undeb UNSAIN wedi beirniadu sefyllfa ariannol Prifysgol Bangor, yn dilyn y newyddion bod 170 o swyddi yn y fantol a bod gofyn i staff dderbyn gotyngiad yn eu cyflogau.

Dywedodd yr undeb y mis diwethaf fod y brifysgol yn wynebu “trafferth ariannol difrifol”, a bod disgwyl i’r sefyllfa waethygu dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd cwymp yn nifer y myfyrwyr ac yn nifer y grantiau y mae’r brifysgol yn eu derbyn.

Dywedodd y brifysgol bryd hynny eu bod nhw’n cynnal arolwg er mwyn “gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol posib”.

Pryder

Ond yn dilyn y cyhoeddiad bod swyddi yn y fantol, dywedodd trefnydd UNSAIN, Geoff Edkins fod y sefyllfa’n destun “pryder”.

Ychwanegodd fod staff “yn grac fod rheolwyr y brifysgol wedi peryglu eu swyddi ac wedi bygwth bywoliaeth eu teuluoedd”.

“Rhaid i ni warchod ansawdd ac ehangder dysg a chefnogaeth myfyrwyr yn y brifysgol a dydy UNSAIN ddim yn gweld sut mae cynigion y brifysgol yn gwneud hynny. Ar ei gorau, mae strategaeth ariannol Bangor yn ymddangos yn afrealistig.”

Dywedodd fod gwerthu eiddo’r Is-ganghellor nad yw’n cael ei ddefnyddio ymhlith yr opsiynau sy’n cael eu cynnig er mwyn gwella sefyllfa ariannol y brifysgol – ac y byddai hynny’n arbed £1 miliwn.

Dywedodd Geoff Edkins ei fod yn disgwyl i staff wrthod cynnig y brifysgol, ac y byddai ei dderbyn yn rhoi staff mewn sefyllfa o dlodi.