Leanne Wood (Llun: Plaid Cymru)
Mae ymgyrch seneddol Theresa May wedi bod yn un “drychinebus” ac mae’r Blaid Geidwadol mewn “sefyllfa simsan” ar drothwy’r etholiad brys yfory, meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Gwnaeth ei sylwadau wrth iddi annerch ymgyrchwyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn Nhreorci heddiw.

Yn ystod ei hanerchiad, galwodd ar bobol i bleidleisio dros Blaid Cymru er mwyn “amddiffyn Cymru”, a dywedodd fod Theresa May wedi bod yn gyfrifol am “yr ymgyrch Geidwadol fwyaf trychinebus ers cyn cof”.

Tynnodd sylw mewn cyfweliad â Press Association at “sawl tro pedol arwyddocaol”, a bod hi wedi talu gormod o sylw i fater Brexit ar draul polisïau eraill.

Roedd hi hefyd yn feirniadol o’r ymadrodd “arweinyddiaeth gref a sefydlog”, sydd wedi dod yn brif ganolbwynt ymgyrch y Ceidwadwyr dros yr wythnosau diwethaf.

“Dw i’n credu ei bod hi wedi dysgu drwy gydol yr ymgyrch fod methu â wynebu pobol, methu â mynd i ddadleuon teledu, methu â dal ei thir a gwneud tro pedol ar gynifer o bolisïau gwahanol wedi ei rhoi hi mewn sefyllfa simsan.”

‘All Cymru fyth ennill’

Roedd Leanne Wood hefyd yn feirniadol o arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn gan ddweud bod y dewis rhyngddo fe a’r Prif Weinidog presennol yn sefyllfa lle na “all Cymru fyth ennill”.

“Mae gofyn i bobol bleidleisio dros ymgeiswyr Llafur sydd wedi disgrifio’u harweinydd, a dw i’n dyfynnu, fel ‘gwallgofddyn’ a llu o ddisgrifiadau anffafriol eraill.

“Mae gofyn i bobol bleidleisio dros Lafur Cymru oedd, fis yn ôl, yn awyddus i ymbellhau oddi wrth weddill y blaid.

“Dyw Cymru ddim yn penderfynu canlyniadau etholiadau’r Deyrnas Unedig. All pleidleisio dros Lafur drosodd a thro ddim stopio llywodraethau Torïaidd rhag cael eu ffurfio.”

Plaid Cymru’n “hanfodol”

Mae Leanne Wood yn mynnu nad yw pleidlais dros Blaid Cymru’n bleidlais sydd wedi’i gwastraffu.

Dywedodd hi fod Aelodau Seneddol Plaid Cymru’n “hanfodol er mwyn amddiffyn a hybu buddiannau cenedlaethol Cymru”.

Dywedodd y byddai gan Blaid Cymru fwy o ddylanwad pe na bai’r un blaid yn ennill mwyafrif ar ôl yfory.