Christine Rowe (Llun: Heddlu Gwent)
Mae teulu wedi talu teyrnged i “wraig, Mam a Mam-gu gariadus” 70 oed, bu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd nos Lun.
“Fe fydd pawb oedd yn ei hadnabod yn methu hi. Mae rhan o’n calonnau wedi ei gipio i ffwrdd,” meddai datganiad gan deulu Christine Rowe.
Bu farw Christine Rowe yn y fan a’r lle wedi i fan Ford Transit wrthdaro â’i char Vauxhall Zafira yn Heol Cas-gwent, Casnewydd ar Fehefin 5.
Cafodd dyn 80 oed a oedd yn teithio gyda Christine Rowe yn y Vauxhall Zafira ei gludo i’r ysbyty gyda man anafiadau.
Apêl am dystion
Roedd gyrrwr y fan, dyn 34 oed, wedi ffoi ar ôl y gwrthdrawiad ond cafodd ei arestio yn ddiweddarach.
Bellach mae wedi’i gyhuddo ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac mi fydd yn ymddangos gerbron llys.
Y gred yw bod y fan wedi bod yn gysylltiedig â dau wrthdrawiad arall ar wahân yn y munudau cyn y digwyddiad, y cyntaf yn Heol Caerdydd a’r llall yn Stryd George.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad angheuol neu bobol a welodd y fan yn gyrru ar hyd Heol Caerdydd neu Stryd George.