Cylchffordd Cymru
Daeth cadarnhad o’r Senedd heddiw y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar gylchffordd Cymru “o fewn y pythefnos nesaf”.

Ond mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price, wedi beirniadu’r oedi a chyhoeddiad y Prif Weinidog fod y penderfyniad yn cael ei wthio tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.

Yn wreiddiol roedd disgwyl i weinidogion fwrw pleidlais ar y prosiect yn ôl ym mis Mawrth.

“Camarwain”

Yn ôl Adam Price, mae Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru wedi “camarwain y cyhoedd” o ran y prosiect.

“Fe wnaeth y Llywodraeth ddweud mai’r cwmni [Heads of the Valleys Development] wnaeth awgrymu’r sicrwydd o 80%. Roedd hynny wedi cyfiawnhau eu penderfyniad i wrthod y cynnig,” meddai.

Er hyn dywedodd Adam Price – “ry’n ni’n deall nawr mai eu syniad eu hunain oedd ei wrthod.”

“Mae’n rhaid cael ymchwiliad ar unwaith i’r atebion camarweiniol, gyda’r Prif Weinidog yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol ar gyfer y prosiect hwn ac yn ymddiheuro am y llu o gamgymeriadau sydd wedi eu gwneud,” meddai.

“Mae pobol Blaenau Gwent sydd wedi dioddef fwyaf yng Nghymru o ddiffyg swyddi yn haeddu llawer gwell gan eu llywodraeth. “