Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio pobol am y peryglon o wersylla mewn tywydd garw ger afonydd wedi i ddau fynd i drafferthion yn ardal Waunfawr, Caernarfon heddiw.

Cafodd dau berson ifanc o’r ardal leol eu hachub gan Heddlu’r Gogledd, y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Gwasanaeth Ambiwlans ar ôl gwersylla dros nos ar dir fferm ger afon Glyn.

Derbyniodd yr heddlu’r alwad tua 6yb dydd Mawrth (6 Mehefin) fod eu pabell wedi’i “olchi i ffwrdd” gan lif uchel yr afon, ac fe gafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty am wiriadau cyffredinol.

“Tra bod yr holl amodau heb eu canfod yn iawn, ni allaf bwysleisio digon y peryglon o wersylla ger dŵr mewn tiroedd mynyddig oherwydd gall y tywydd a’r amodau dan draed newid yn sydyn heb rybudd,” meddai’r Arolygydd Owain Llewellyn o Orsaf Heddlu Caernarfon.

Ychwanegodd Owain Llewellyn fod “ymateb cyflym a phroffesiynol” y gwasanaethau brys wedi golygu fod y ddau wedi’u hachub gan “osgoi perygl o’r hyn a allai fod yn ddigwyddiad trychinebus.”