Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i achos o lygredd mewn afon yn ardal Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion.

Dydy effaith y llygredd ddim yn amlwg eto, ond mae lle i gredu ei fod wedi’i ryddhau o safle treulio anaerobig gan lifo i afon Dulas sy’n ymuno ag afon Teifi yn Llanbed.

Yn ogystal mae llif yr afon yn uchel ar hyn o bryd sy’n golygu nad oes modd dal llawer o’r llygredd, ond fe allai hyn fod yn help i leihau effaith y llygredd a’i wanhau.

‘Lleihau llygredd pellach’

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cydweithio â rheolwr y safle i atal unrhyw lygredd pellach.

Maen nhw wedi cadarnhau nad oes cysylltiad rhwng y digwyddiad hwn â’r llygredd ar afon Teifi ym mis Rhagfyr 2016 pan gafodd o leiaf 1,000 o bysgod eu lladd yn agos at Dregaron.

“Rydym wedi cadarnhau bod y llygredd wedi’i atal yn ei darddiad, ond mae symiau mawr o’r deunydd eisoes wedi mynd i’r afon,” meddai Ben Wilson, Rheolwr Gweithrediadau Ceredigion CNC.

“Mae ein swyddogion yn parhau ar y safle ac yn gweithredu i leihau risg o lygredd pellach.”