Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru Llun: PA
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi awgrymu heddiw fod y blaid Lafur am waredu â fformiwla Barnett – sef y system sy’n rheoli faint o arian mae Cymru’n ei gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ond mae Arweinydd Llafur yr Alban, Kezia Dugdale, wedi gwrthddweud hynny gan ddweud fod maniffesto’r blaid Lafur yn cefnogi’r fformiwla sy’n penderfynu lefel gwariant cyhoeddus Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Am hynny, mae galwadau o’r newydd ar arweinydd Llafur y Deyrnas Unedig, Jeremy Corbyn, i egluro safiad y blaid ar Fformiwla Barnett.

‘Fformiwla newydd’

Mewn cyfweliad â BBC Wales heddiw, dywedodd Carwyn Jones – “mae’n dweud yn y maniffesto y bydd yna fformiwla gyllido newydd yn seiliedig ar angen. Mae hynna’n golygu cael fformiwla newydd i ddisodli Barnett,” meddai.

“Ni all neb amddiffyn sefyllfa lle mae gennym fformiwla gyllido sydd mwy na 38 mlynedd oed erbyn hyn, ac wedi’i seilio ar sut oedd pethau yn yr 1970au.

“Mae angen fformiwla gyllido sy’n deg i’r holl wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.”

‘Diwygiad hirdymor’

Mae adran ym maniffesto’r Blaid Lafur yn cyfeirio at Gymru gan ddweud – “mae angen diwygiad hirdymor ar sut mae’r Deyrnas Unedig yn dosbarthu gwariant cyhoeddus i sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion gwahanol rannau o’r wlad ac nad yw’r un genedl neu ranbarth yn y Deyrnas Unedig o dan anfantais annheg.”

Er hyn dywedodd llefarydd ar ran Llafur y Deyrnas Unedig – “mae costau ein maniffesto yn seiliedig ar Fformiwla Barnett ac ni fyddwn yn ei waredu.”