Sam Gould (Llun: o neges ar dudalen Facebook Sam Gould)
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Sam Gould fu farw o ganser y coluddyn wedi iddo gael diagnosis ym mis Ebrill yn 33 oed.

Bu’n ymgeisydd UKIP yn etholiadau lleol Caerffili ynghyd ag yn Etholiadau’r Cynulliad y llynedd a bu’n brif gynghorydd i’r Aelod Cynulliad Nathan Gill.

“Sam oedd un o’r bobol fwyaf ffyddlon, diffuant a gweithgar rydw i wedi’u cwrdd erioed,” meddai Nathan Gill mewn teyrnged iddo.

“Roedd ei egni a’i frwdfrydedd i bopeth mewn bywyd yn heintus ac yn ysbrydoliaeth,” meddai.

“Fe wnaeth frwydro ei salwch, yn yr un modd y gwnaeth frwydro popeth arall yn ei fywyd, gyda gwên, gobaith ac egni diderfyn. Mae’n drasiedi ei fod wedi marw o ganser mor ifanc.”

Codi ymwybyddiaeth

Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu’n ymgyrchu i godi arian ac ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn lle mae wedi codi mwy na £1,848 ar ei dudalen JustGiving.

Mae’n gadael ei wraig Caroline a thri o blant Olivia, Louisa a Pippa.

Disgrifiodd Aelod Cynulliad Caerffili, Hefin David o’r blaid Lafur, ef fel “gwrthwynebydd egnïol heb ei debyg a ddefnyddiodd ei salwch olaf i ymgyrchu dros eraill.”