Ar drothwy’r gêm griced gyntaf yng Nghaerdydd yn Nhlws Pencampwyr yr ICC rhwng Lloegr a Seland Newydd, daeth cadarnhad bod Croeso Cymru’n un o bartneriaid y Bwrdd Criced Rhyngwladol (ICC) ar gyfer y gemau yn y brifddinas.

Fe fydd Caerdydd yn croesawu pedair gêm i gyd, gan gynnwys un o’r ddwy gêm gyn-derfynol.

Mae’r bartneriaeth yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mi fydd yn cynnwys darparu arwyddion dwyieithog yn Stadiwm Genedlaethol Cymru (y Swalec SSE).

Dywedodd Prif Weithredwr yr ICC, David Richardson fod y bartneriaeth yn “bwysig” i’r gystadleuaeth, a bod sicrhau cefnogaeth llywodraeth leol a chenedlaethol yn “hanfodol” ar gyfer ei llwyddiant.

Ychwanegodd fod y gystadleuaeth yn “gyfle rhyfeddol i hybu Caerdydd a Chymru i weddill y byd ac i’r cannoedd o filoedd o gefnogwyr fydd yn gwylio”.

‘Cyfle gwych’

Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Mae hwn yn gyfle gwych i ni arddangos Cymru gan y bydd llygaid y byd arnom unwaith eto wrth i ni gynnal digwyddiad byd-eang arall a chroesawu rhai o chwaraewyr gorau’r byd i Gaerdydd.”

Mae 15 o gemau’n cael eu cynnal dros gyfnod o 18 diwrnod rhwng Mehefin 1-18.

Y gemau yng Nghaerdydd

Lloegr v Seland Newydd, Mehefin 6

Seland Newydd v Bangladesh, Mehefin 9

Sri Lanca v Pacistan, Mehefin 12

Rownd gyn-derfynol, Mehefin 14