Ceblau trydan
Mae dros 200 o gartrefi yn ne Cymru heb drydan fore heddiw yn dilyn noson o dywydd garw.

Yn ôl gwefan cwmni bŵer Western Power Distribution mae yna 237 o gartrefi yn ardaloedd Caerfyrddin, Caerdydd, Y Fenni, Cwmbrân, Cas-gwent a Brynbuga sydd o hyd heb gyflenwad trydan.

Am gyfnod fore heddiw roedd dros 1,100 o gwsmeriaid yn Abercarn yn sir Caerffili heb bŵer ond bellach mae cyflenwad yr ardal wedi’i adfer.

Bydd ‘rhybudd melyn’ y Swyddfa Dywydd ar gyfer glaw trwm a thywydd garw yn parhau i fod mewn grym yng ngogledd Cymru tan 11.30yb ddydd Mawrth.

Mae Western Power Distribution yn annog unrhyw gwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio i gysylltu â’u llinell gymorth ar 0800 6783 105 neu eu llinell galwadau brys ar 105.