Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd nos Lun.
Bu farw dynes 70 oed, a oedd yn gyrru car Vauxhall Zafira, ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a fan Ford Transit yn Heol Cas-gwent, Casnewydd tua 7yh nos Lun, 5 Mehefin. Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle.
Cafodd dyn 80 oed a oedd yn teithio yn y Vauxhall Zafira ei gludo i’r ysbyty gyda man anafiadau.
Roedd gyrrwr y fan wedi ffoi ar ôl y gwrthdrawiad ond cafodd ei arestio gan yr heddlu yn ddiweddarach.
Credir bod y fan wedi bod yn gysylltiedig â dau wrthdrawiad arall ar wahân yn y munudau cyn y digwyddiad, y cyntaf yn Heol Caerdydd a’r llall yn Stryd George.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad angheuol neu a welodd y fan yn gyrru ar hyd Heol Caerdydd neu Stryd George.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101.