Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Ar drothwy’r etholiad cyffredinol ac wrth i’r ymgyrch etholiadol ddirwyn i ben mi fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ymweld â Chymru heddiw.

Mae Theresa May eisoes wedi ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam yn ystod yr ymgyrch etholiadol – dwy etholaeth mae’r Ceidwadwyr yn gobeithio cipio gan y blaid Lafur.

Mi fydd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, yn teithio i etholaeth Sir Drefaldwyn ac yn ymweld â fferm er mwyn trafod dyfodol y diwydiant amaeth.

O ran Plaid Cymru, mi fydd yr Aelod Cynulliad Llŷr Gruffydd ac ymgeisydd Dwyrain Caerdydd Michael Deem yn ymweld â meddygfa yng Nghaerdydd i drafod y prinder meddygon.

Bydd y Blaid Lafur yng Nghymru a UKIP yn parhau â’u hymgyrchoedd lleol.