Nifer y rhai sydd yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia ar gynnydd (Llun: British Council Cymru)
Mae nifer y bobol sydd yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia ar gynnydd, yn ôl ffigurau adroddiad diweddar.

Yn ôl yr adroddiad roedd 1,270 o bobol yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia y llynedd, sydd yn gynnydd o 4.1% o gymharu â’r 573 o ddysgwyr yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Hefyd yn 2016 bu cynnydd o 202% yn nifer y disgyblion cynradd a chynnydd o 14.5% yn nifer y plant yn eu harddegau oedd yn dysgu Cymraeg.

Daw’r cynnydd yn sgil sefydliad ysgol newydd Ysgol y Cwm yn Nhrefelin, wnaeth agor mis Mawrth y llynedd ac sy’n gobeithio denu 200 o ddisgyblion yn y pen draw.

“Twf parhaus”

Cafodd yr ystadegau eu datgelu gan British Council Cymru, mudiad sydd yn cyfrannu at gynllun hyrwyddo ‘Prosiect yr Iaith Gymraeg’, yn y rhanbarth.

“Mae’r twf parhaus yn nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia yn dyst i’r gwaith caled sydd wedi bod yn rhan o Brosiect yr Iaith Gymraeg dros yr ugain mlynedd diwethaf,” meddai cyfarwyddwr British Council Cymru Jenny Scott.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld twf pellach yn sgil datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth.”