Llys Ynadon yr Wyddgrug
Mae dyn 19 oed wedi bod gerbron ynadon heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dyn yng Nghei Conna ar Lannau Dyfrdwy.

Bu farw Matthew Cassidy, 19 oed, ar ôl cael ei drywanu yng Nghei Conna ar Mai 29.

Cafodd David John Woods, 19, o Lerpwl ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug heddiw ac mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa.

Fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher, 7 Mehefin.

Mae dau ddyn arall a oedd yn cael eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio bellach wedi cael eu rhyddhau tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth  ynglŷn â’r digwyddiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod V078270.