Llun sgrin o hysbyseb y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd bellach yn cael ei dynnu i lawr
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cadarnhau wrth golwg360 eu bod wedi galw am dynnu un o’i hysbysebion i lawr o’r we oedd yn honni fod Plaid Cymru yn “cefnogi Brexit caled.”

Daw hyn wedi i nifer o wleidyddion o Blaid Cymru dynnu sylw at frawddeg yn yr hysbyseb oedd yn nodi – “Mae Plaid Cymru’n cefnogi Brecsit eithafol ynghyd â Llafur, y Toris ac UKIP.”

Ond yn ôl Elin Jones, AC Ceredigion a Llywydd y Cynulliad mae hynny’n “gelwydd noeth.”

‘Celwydd’

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook dywedodd Elin Jones – “dyw Plaid Cymru ddim wedi, ac ni fydd yn cefnogi Brexit eithafol. Mae popeth rydym wedi’i ddweud yn yr etholiad hwn yn gwneud hynny’n glir. Ac eto mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud celwydd ac yn dweud fel arall yma.”

Aeth yn ei blaen i alw ar y Democratiaid Rhyddfrydol i dynnu’r hysbyseb i lawr ac ymddiheuro.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, sylwadau ar wefan Twitter gan ddweud fod hyn yn – “un rheswm pam fod cymaint yn siomedig gan wleidyddiaeth. Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu Brexit Tori eithafol. Peidiwch â gwobrwyo’r Dems Rhydd am ddweud celwydd.”

‘Stopio’r hysbyseb’

Yn y cyfamser, mae llefarydd ar ran Mark Williams yng Ngheredigion wedi dweud fod yr Aelod Seneddol wedi galw am “stopio’r hysbyseb.”

“Mae’n glir iawn ei fod [Mark Williams] yn benderfynol iawn i geisio stopio’r llywodraeth ein gwthio dros y dibyn i Brexit caled,” meddai’r llefarydd wrth golwg360.

“Mae eisiau cael cymaint o gynghreiriaid gydag e i wrthwynebu Brexit caled – os ydy Plaid yn cefnogi hynna rydyn ni mor falch ag unrhyw un,” meddai wedyn.