Gareth Bale yn dathlu buddugoliaeth Real Madrid yn erbyn Juventus yng Nghynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd (Llun: Nick Potts/PA Wire)
Yn dilyn Gwyl Cynghrair y Pencampwyr  yng Nghaerdydd dros y penwythnos, mae Heddlu De Cymru wedi diolch i drigolion y ddinas am ddangos “croeso Cymreig go iawn.”

Roedd 6,000 o swyddogion yr heddlu ac aelodau staff diogelwch yn bresennol yn ystod yr ŵyl ond yn ôl yr heddlu roedd nifer y bobl gafodd eu harestio yn “hynod o isel.”

“Hoffwn ddiolch i chi am gynorthwyo’r ddinas i gynnal y digwyddiad chwaraeon fwyaf ar wyneb y ddaear yn 2017,” meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Richard Lewis.

Bu’n rhaid i Heddlu De Cymru “adolygu trefniadau diogelwch” y digwyddiad yn dilyn ymosodiad brawychol Manceinion ym mis Mai, ac ymysg y mesurau diogelwch cafodd eu cyflwyno gan y llu oedd technoleg monitro arloesol.

Atyniadau

Gwnaeth tua 170,000 o bobol ymweld â’r brifddinas dros y penwythnos gyda rownd derfynol Cynghrair y merched a chae pêl-droed sy’n nofio ar wyneb y dŵr ymhlith yr atyniadau.

Cafodd prif atyniad yr ŵyl ei gynnal ddydd Sadwrn, sef gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop rhwng Real Madrid a Juventus.

Yn dilyn hanner cyntaf a gafodd ei ddominyddu gan Juventus, aeth tîm Gareth Bale ymlaen i guro’r clwb o’r Eidal o 4 gôl i 1.

Yn y cyfamser, mae Gareth Bale wedi wfftio honiadau ei fod yn bwriadu gadael Real Madrid.