Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych yn 1994 (ste-nova CCA 2.0)
Fe fydd cynghorwyr sir a thref Dinbych yn cyfarfod prynhawn heddiw i drafod y camau nesaf wedi tân difrifol yn yr hen ysbyty meddwl yno yn ystod oriau man fore Gwener.

Cafodd criwiau Tân ac Achub Gogledd Cymru, eu galw i safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych am 3.04 bore ddydd Gwener.

Roedd y tân mewn rhan o’r prif adeilad – rhan oedd wedi’i glustnodi i gael ei adfer a’i ailddatblygu – ond oherwydd difrifoldeb y tân, mae’r Cyngor wedi datgan y bydd angen ei ddymchwel.

Nid yw union achos y tân wedi ei gadarnhau, a pharhau mae ymchwiliad swyddogol Heddlu Gogledd Cymru.

Mae dadlau wedi bod ers blynyddoedd am ddyfodol yr hen ysbyty meddwl wnaeth gau yn 1995 ac oedd, ar un adeg, yn un o adeiladau amlycaf gogledd Cymru.