Carwyn Jones a Leanne Wood
Wrth i’r ymgyrch etholiadol ail ddechrau heddiw, mi fydd Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Plaid Cymru yn ymweld â’r gogledd.

Fe fydd Leanne Wood yn ymuno â’r ymgeisydd seneddol, Ieuan Wyn Jones wrth iddo ymgyrchu yn Niwbwrch, Ynys Môn.

Ac yn ystod ei daith ef mi fydd arweinydd Llafur yng Nghymru, Carwyn Jones, yn ymweld ag etholaethau Ynys Môn, Delyn, Alun a Glannau Dyfrdwy, De Clwyd a Wrecsam.

Mae disgwyl iddo amlinellu sut fydd ethol Llywodraeth Lafur i’r Deyrnas Unedig yn galluogi’r blaid yng Nghymru i “drawsnewid” y sustem drafnidiaeth yng ngogledd Cymru.

Bydd hefyd yn mynnu fod “ymrwymiad Llafur Cymru i ogledd Cymru yn ddiamod” ac yn cyhuddo Plaid Cymru a’r Torïaid o “osgoi’r heriau mawr.”

Pleidiau eraill

Bydd y Ceidwadwyr yn ail ddechrau eu hymgyrch heddiw gydag Arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies, ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn ymgyrchu yng Ngŵyr.

Parhau yn hytrach nag ailddechrau eu hymgyrch fydd UKIP wrth i Arweinydd grŵp Cynulliad y blaid, Neil Hamilton, gynnal hysting yn Llandeilo heno.