Hen ysbyty Dinbych
Mae un o gynghorwyr sir tref Dinbych wedi dweud wrth golwg360 ei bod yn “synnu dim” bod tân yn yr hen ysbyty meddwl.

Ac mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud bod y difrod cynddrwg yn dilyn y tân diweddaraf heddiw, yn golygu y bydd yn rhaid iddyn nhw ddymchwel yr adeilad.

Y bore yma roedd pedair injan dân ar y safle ac mae yn olygfa gyfarwydd yn ôl Gwyneth Kensler, sy’n gynghorydd sir dros ward Canol Dinbych ar ran Plaid Cymru.

“Mae yna nifer [o dannau] wedi bod yn y gorffennol,” meddai .

“Dwsinau byswn i’n dweud, o wahanol feintiau.

“Mae lot o bobl â diddordeb i fynd fan’na i ymweld â’r safle ac, wrth gwrs, mae’n hanner tymor ysgol felly dw i ddim yn gwybod os mai pobol leol sydd wedi creu hyn neu ymwelwyr – neu pwy a ŵyr.”

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cafodd criwiau tân eu galw i safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych am 03.04 y bore yma.

Mae diffoddwyr tân yn parhau ar y safle yn diffodd y tân ac mae cryn ddifrod wedi ei wneud i’r to sy’n golygu bod yr adeilad ei hun yn beryglus.