Yr ysbyty yn 1994, cyn cau;'n llwyr (ste-nova CCA 2.0)
Mae’r gwasanaethau brys yn dweud bod y tân yn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych bellach dan reolaeth.

Er hynny, ychydig cyn wyth o’r gloch y bore, roedd pedair injan dân yn parhau i chwistrellu dŵr ar y fflamau sydd wedi achosi difrod sylweddol i’r hyn sydd ar ôl o’r adeilad hanesyddol.

Mae’n ymddangos fod llawer o’r hyn oedd ar ôl o’r to wedi mynd ond, yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaethau, roedd yr adeilad wedi cael ei ddifrodi’n sylweddol gan nifer o danau eraill dros y blynyddoedd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua thri o’r gloch y bore yma ac, ar un adeg, roedd saith periaint tân yno.

Erbyn wyth, roedd dau eisoes wedi gadael ac un arall ar fin mynd. Roedd y glaw hefyd yn help i reoli’r tân.

Rhybudd i gadw draw

Yn awr, mae’r awdurdodau’n rhybuddio pobol i gadw draw o’r adeilad gan ei fod bellach “mewn cyflwyr peryglus iawn”.

Does dim gwybodaeth eto beth oedd wedi achosi’r tân diweddara’ ond mae llawer o danau’r gorffennol wedi cael eu cynnau’n fwriadol.

Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i ymchwilio i hynny.

Adeilad hanesyddol

Mae dadlau wedi bod ers blynyddoedd am ddyfodol yr hen ysbyty meddwl a oedd, ar un adeg, yn un o adeiladau enwoca’ gogledd Cymru.

Pan gafodd ei agor yn 1844, roedd yr ysbyty’n un arloesol ac mae’r adeilad ei hun wedi’i restru.

Fe gaeodd yr ysbyty fesul ychydig rhwng 1991 ac 1995.