Gareth Bale (llun: Manu Fernandez/AP)
Ar drothwy ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd, mae Gary Lineker wedi dweud bod Gareth Bale yn “un o’r chwaraewyr gorau o Brydain erioed”.

Mae yn amheus a fydd y Cymro yn cychwyn y gêm i Real Madrid yn erbyn Juventus nos Sadwrn yng Nghaerdydd.

Nid yw’r chwaraewr 27 oed wedi chwarae i’w glwb ers mis Ebrill, oherwydd anaf i’w goes.

Ond mae rheolwr Real Madrid wedi awgrymu y gallai Gareth Bale gychwyn y gêm, a phwysleisio ei fod yn holliach i wneud hynny.

Mae’r chwaraewr ei hun wedi cyfaddef nad yw yn 100%, a’r disgwyl yw y bydd Real Madrid yn cyhoeddi eu tîm rhyw hanner awr cyn y gêm fawr nos Sadwrn.

“Un o’r goreuon”

Ers cael ei werthu i Real Madrid am £85 miliwn yn 2013, mae Gareth Bale wedi sgorio 67 gôl mewn 149 gêm a chipio dau dlws Pencampwyr Ewrop a thlws y gynghrair.

Ac mae cyn-ymosodwr Lloegr a Barcelona yn dweud bod y Cymro “yn sicr” ymysg y 10 chwaraewr gorau erioed yng ngwledydd Prydain.

“Mae Gareth Bale wedi ennill llawer o bethau, wedi helpu Cymru i fod yn fwy llwyddiannus nag y buon nhw am amser maith, ac mae yn chwarae i un o gewri’r byd pêl-droed, felly mae o fyny yna ar y brig ac yn ei elfen,” meddai Gary Lineker.