Cyn-Aelod Cynulliad i Blaid Cymru yw arweinydd newydd Cyngor Conwy.

Ac mae Gareth Jones wedi addo ceisio newid pethau er gwell ar ôl cael ei ethol gan fwyafrif yr aelodau.

Er fod Plaid Cymru wedi colli dwy sedd yn etholiadau’r mis diwetha’, cyn AC y Blaid fydd yn arwain clymblaid yn y sir.

Mewn datganiad yn  y cyngor ddoe, fe ddywedodd Gareth Jones y byddai’n atebol i bob cynghorydd, nid dim ond y grwpiau gwleidyddol y mae’n eu harwain.

“O dan fy arweinyddiaeth i byddai’r Cabinet yn wirioneddol ddemocrataidd a chynhwysol,” meddai.

Cefndir

Mae’r cyn-brifathro ysgol uwchradd o Landudno wedi bod yn Ddirprwy Arweinydd o’r blaen ac fe fu’n Aelod Cynulliad ddwywaith – rhwng 1999 a 2003 a rhwng 2007 a 2011.